
Beth ydyn ni’n ei wneud?
Mae CreuTech yn helpu pobl i archwilio, deall a chreu gyda thechnoleg sy'n dod i'r amlwg. Rydym yn arbenigo mewn technoleg ymdrochol, gan gynnwys VR, AR a realiti cymysg, yn ogystal ag AI, gemau, 3D a phrofiadau rhyngweithiol.
Drwy hyfforddiant ymarferol, ymgynghori ac ymchwil a datblygu, rydym yn gweithio gyda busnesau, sefydliadau, cymunedau a phobl ifanc i ddatblygu sgiliau, archwilio syniadau ac arbrofi gyda'r hyn sy'n bosibl.

Am CreuTech
Rydym yn credu mai'r ffordd orau o ddeall technoleg yw rhoi cynnig arni, arbrofi a chreu rhywbeth gyda hi.
Mae CreuTech yn gwmni technoleg greadigol annibynnol wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru.
Rydym yn cyfuno meddwl creadigol, arbenigedd technegol a phrofiad ymarferol yn y diwydiant i helpu pobl a sefydliadau i archwilio, deall a gweithio gyda thechnoleg newydd.
Rydym yn dîm bach sy'n cael ei gefnogi gan rwydwaith cynyddol o arbenigwyr cyswllt, gan ddod â'r sgiliau a'r arbenigedd cywir at ei gilydd ar gyfer pob prosiect.
Rydym yn Gweithio gyda'r Gorau
















Beth Mae Ein Cleientiaid yn ei Ddweud







