top of page

Careg Ateb: Vision or Dream. The National Gallery a Frân Wen


Cafodd CreuTech ei gomisiynu’n ddiweddar gan The National Gallery i gydweithio gyda Chwmni Ifanc Frân Wen ar Careg Ateb: Vision or Dream, rhan o gomisiwn cenedlaethol Jeremy Deller, The Triumph of Art.


Y nod oedd creu darn o gelfyddydau ymddrochol a fyddai nid yn unig yn archwilio themâu chwedloniaeth a thrawsnewid, ond a fyddai hefyd yn cael ei lywio gan leisiau pobl ifanc. Rôl CreuTech oedd dylunio a rhedeg gweithdai oedd yn cyflwyno’r cyfranogwyr i offer trochiadol ac yn defnyddio’r arbrofion hyn i helpu siapio cyfeiriad y darn.


Wrth weithio gyda chwmni ifanc Frân Wen, fe wnaethom archwilio sut gellid cyfuno archeteipiau, darnau o straeon a thechnoleg i ail-ddychmygu chwedlau lleol mewn ffordd gyfoes a throchiadol. Roedd eu syniadau a’u cyfraniadau’n rhan ganolog o’r datblygiad creadigol, gan sicrhau nad oedd y darn terfynol yn cael ei wneud droston nhw yn unig, ond gyda nhw.



Daeth y broses i ben gyda dangosiad yn galeri MOSTYN yn Llandudno, lle cyfuniwyd theatr fyw gyda’r elfennau trochiadol a ddatblygwyd trwy’r gweithdai. Roedd gweld y bydau hyn yn dod at ei gilydd, comisiwn cenedlaethol, lleisiau pobl ifanc lleol, theatr draddodiadol ac arbrofi digidol, yn foment falch i bawb oedd yn rhan ohono.


I ni yn CreuTech, mae Careg Ateb: Vision or Dream yn amlygu’r hyn sy’n bosib pan mae pobl ifanc, sefydliadau diwylliannol a thechnoleg greadigol yn dod at ei gilydd, straeon sydd wedi’u gwreiddio yn y gymuned ond sydd hefyd yn agored i ffurfiau mynegi newydd.

 
 
CreuTech Logo

Creu Gyda Ni

Gwybodaeth

Cyfeiriad

Hwb Menter

M-Sparc

Gaerwen

Anglesey

LL60 6AG

Dilyn

LinkedIn

© 2024 gan CreuTech Ltd

Equality-Pledge
Green-Growth-Pledge
bottom of page