top of page
Ein Gwaith
Prosiectau a gweithdai gyda phartneriaid a chleientiaid

Artio
“Er nad oedd o’n Arthur”
Mae Artio yn brofiad cerddorol ymdrochol ar raddfa fawr sy’n ail-ddychmygu chwedloniaeth Arthuraidd drwy lens gyfoes ffeministaidd o ecoleg, hunaniaeth a thrawsnewid.


Carreg Ateb: Profiad AR
Gweithiodd CreuTech gyda Chwmni Ifanc Frân Wen a’r National Gallery i greu profiad AR rhyngweithiol oedd yn cyfuno mytholeg Gymreig, celf a helfa drysor drwy’r oriel. Tyfodd Carreg Ateb o hanes paentiadau’r National Gallery yn cael eu diogelu yng nghwarel Manod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan greu cysylltiad rhwng yr Oriel a thirwedd a straeon Gogledd Cymru. Gan weithio’n uniongyrchol gyda’r Cwmni Ifanc, cynhaliwyd gweithdai creadigol i helpu i lunio’r naratif, y cymeriadau a’


Ymchwil a Datblygu gyda Recordiau Sain
Bu CreuTech yn gweithio gyda Chanolfan Mileniwm Cymru a Recordiau Sain ar gyfnod Ymchwil a Datblygu wythnos o hyd yn archwilio sut gallai adrodd straeon ymdrochol ddod â hanes cerddoriaeth Gymraeg yn fyw. Roedd yr wythnos yn gweithredu fel cyfnod darganfod, gan roi’r tîm mewn cyd-destun diwylliannol, gwleidyddol, a hanesyddol stori Sain. Roedd y sesiynau cynnar yn canolbwyntio ar sut mae’r Gymraeg, hunaniaeth, ac actifiaeth wedi’u cysylltu’n ddwfn gyda hanes y label, gan wneu


Celfyddydau Ymddrochol : Cydweithio gyda Nadia Wazera
Fel rhan o raglen Celfyddydau Ymddrochol, bu CreuTech yn cydweithio gyda’r arlunydd paentio Nadia Wazera i arbrofi gyda’r syniad o sut y gellid profi ei gwaith y tu hwnt i’r cynfas. Dechreuon ni drwy archwilio ffyrdd o ddefnyddio AI a mapio tafluniadau i ddod â symudiadau cynnil i mewn i’w phaentiadau. Daeth un darn oedd yn portreadu tonnau yn ganolbwynt i’r prototeip: gan ddefnyddio AI, fe wnaethom animeiddio’r brwshys tro er mwyn i’r môr ymddangos fel pe bai’n symud ac yn l


Llygaid y Gath : Prototip gyda Chris Tally Evans
Rydyn ni wedi bod yn brysur yn CreuTech yn gweithio ochr yn ochr â’r awdur a pherfformiwr Chris Tally Evans ar brototip trochiadol cyffrous newydd: Cat’s Eyes. Mae’r prosiect yn gomedï XR sy’n seiliedig ar Under Milk Wood gan Dylan Thomas, yn ail-ddychmygu byd Captain Cat drwy adrodd straeon rhyngweithiol a throchiadol. Datblygwyd y prototip cynnar hwn fel rhan o raglen Celfyddydau Ymddrochol, ac mae’n archwilio sut y gall theatr, comedi a thechnoleg ddod at ei gilydd mewn ff


Careg Ateb: Vision or Dream. The National Gallery a Frân Wen
Cafodd CreuTech ei gomisiynu’n ddiweddar gan The National Gallery i gydweithio gyda Chwmni Ifanc Frân Wen ar Careg Ateb: Vision or Dream, rhan o gomisiwn cenedlaethol Jeremy Deller, The Triumph of Art. Y nod oedd creu darn o gelfyddydau ymddrochol a fyddai nid yn unig yn archwilio themâu chwedloniaeth a thrawsnewid, ond a fyddai hefyd yn cael ei lywio gan leisiau pobl ifanc. Rôl CreuTech oedd dylunio a rhedeg gweithdai oedd yn cyflwyno’r cyfranogwyr i offer trochiadol ac yn d


Podiau Llesiant : Prosiect SBRI gyda Wellbeing Monitor
Cafodd CreuTech ei gomisiynu gan Wellbeing Monitor, gyda’r penseiri yn CAUKIN Studio, i greu prototeip o gerdded trwodd rhithwir aml-chwaraewr o’u Podiau Llesiant arloesol. Mae’r podiau yma wedi’u cynllunio i gefnogi lles staff a chleifion ar draws y GIG. Roedd y prosiect yn rhan o raglen SBRI Healthcare, mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ein rôl ni oedd delweddu’r podiau mewn ffordd rithwir ac archwiliadwy fel bod rhanddeiliaid, gweithwyr iechyd p
bottom of page
